SL(6)582 – Rheoliadau'r Platfform Gwybodaeth am Etholiadau Cymreig 2025
Cefndir a Diben
Mae’r Rheoliadau hyn yn gwneud darpariaeth ar gyfer platfform gwybodaeth am etholiadau Cymreig, fel sy’n ofynnol gan adran 26 o Ddeddf Etholiadau a Chyrff Etholedig (Cymru) 2024.
Bwriad y platfform yw darparu gwybodaeth gyfredol i etholwyr i’w helpu i gymryd rhan yn etholiadau Senedd Cymru ac etholiadau cyffredin i brif gynghorau yng Nghymru. Y Bwrdd Rheoli Etholiadol, a gaiff ei sefydlu fel rhan o Gomisiwn Democratiaeth a Ffiniau Cymru, a fydd yn gweithredu’r platfform.
Mae’r Memorandwm Esboniadol sy’n gysylltiedig â’r Rheoliadau hyn yn nodi:
“Bwriad polisi cyffredinol y platfform gwybodaeth am etholiadau Cymreig yw gwella'r wybodaeth sydd ar gael i bleidleiswyr a sicrhau bod yr wybodaeth honno'n hygyrch er mwyn i ddinasyddion Cymru gynyddu eu dealltwriaeth, eu hymwybyddiaeth a'u hyder i gymryd rhan yn y broses ddemocrataidd. Gall y platfform gynnwys gwybodaeth i helpu etholwyr i ddeall y broses ddatganoli o ran etholiadau Cymreig, gan gynnwys y gwahaniaeth rhwng etholiadau sydd wedi'u datganoli a'r rhai a gadwyd yn ôl.”
Mae'r Rheoliadau'n nodi’r wybodaeth y mae rhaid ei rhoi ar y platfform (fel gwybodaeth am ymgeiswyr, am bleidiau gwleidyddol ac am drefniadau hygyrchedd), a'r gofynion perthnasol mewn perthynas â gwybodaeth o'r fath.
Gweithdrefn
Cadarnhaol Drafft
Mae Gweinidogion Cymru wedi gosod fersiwn ddrafft o’r Rheoliadau gerbron y Senedd. Ni chaiff Gweinidogion Cymru wneud y Rheoliadau oni bai bod y Senedd yn cymeradwyo’r Rheoliadau drafft.
Materion technegol: craffu
Nodwyd y 5 pwynt a ganlyn i gyflwyno adroddiad arnynt o dan Reol Sefydlog 21.2 mewn cysylltiad â’r offeryn hwn.
1. Rheol Sefydlog 21.2(vi) – ei bod yn ymddangos bod gwaith drafftio’r offeryn neu’r drafft yn ddiffygiol neu ei fod yn methu â bodloni gofynion statudol.
Mae rheoliad 2 yn ddarpariaeth ddehongli. Mae’n darparu tri diffiniad ar wahân ar gyfer “ymgeisydd” yn y Rheoliadau, yn dibynnu ar y cyd-destun.
Mae'r ddau ddiffiniad cyntaf yn cwmpasu (a) ymgeiswyr unigol (h.y. ymgeiswyr annibynnol) ar gyfer etholiadau’r Senedd, a (b) ymgeiswyr rhestr plaid ar gyfer etholiadau’r Senedd.
Fodd bynnag, mae’r drafftio ar gyfer (a) yn anghywir gan ei fod yn dweud “unigolyn sy’n ymgeisydd i fod yn Aelod o’r Senedd”. Yn ein barn ni, mae’n bosibl y gallai ymgeisydd rhestr plaid hefyd ddod o dan y diffiniad hwn gan y byddent hwythau hefyd, yn ôl ystyr naturiol a chyffredin y geiriau, yn unigolion sy’n sefyll fel ymgeiswyr yn etholiadau’r Senedd.
Sylwn fod y ddarpariaeth ddehongli yn yGorchymyn Senedd Cymru (Cynrychiolaeth y Bobl) 2025 (y "Gorchymyn Cynnal Etholiadau Drafft”) yr ymgynghorwyd arno yn ddiweddar gan Lywodraeth Cymru yn diffinio 'ymgeiswyr unigol’ fel “ymgeisydd mewn etholiad y Senedd ac eithrio ymgeisydd rhestr plaid”.
Dylid ystyried diwygio'r diffiniad o 'ymgeisydd' yn y Rheoliadau er mwyn gwahaniaethu'n gliriach rhwng ymgeiswyr unigol ac ymgeiswyr rhestr plaid.
2. Rheol Sefydlog 21.2(v) – bod angen eglurhad pellach ynglŷn â’i ffurf neu ei ystyr am unrhyw reswm penodol.
Mae rheoliad 4(2)(b) yn darparu bod rhaid i’r Bwrdd Rheoli Etholiadol (yn rhinwedd ei swydd fel gweithredwr platfform) sicrhau bod y platfform yn darparu, yn lletya ac yn cyhoeddi gwybodaeth mewn modd gwleidyddol niwtral am —
i. etholiadau penodedig (h.y. etholiadau’r Senedd ac etholiadau cyffredin i brif gynghorau yng Nghymru),
ii. ymgeiswyr, a
iii. phleidiau gwleidyddol cofrestredig sy’n sefyll mewn etholiadau i Senedd Cymru; [ychwanegwyd pwyslais]
Nid yw’n glir pam nad yw’r ddyletswydd hon yn ymestyn i gyhoeddi gwybodaeth am bleidiau gwleidyddol sydd wedi cofrestru yng nghyd-destun etholiadau cyffredin i brif gynghorau Cymru.
3. Rheol Sefydlog 21.2(v) – bod angen eglurhad pellach ynglŷn â’i ffurf neu ei ystyr am unrhyw reswm penodol.
Mae rheoliad 6(1)(g) yn darparu bod yn rhaid i weithredwr y platfform gyhoeddi, neu drefnu i gyhoeddi, y “trefniadau hygyrchedd sydd ar waith mewn gorsafoedd pleidleisio” ar gyfer pob etholiad penodedig.
Mae cwmpas y rhwymedigaeth hon yn aneglur. Yn y cyd-destun hwn, gall ymestyn i drefniadau hygyrchedd ar gyfer mynd i mewn i orsafoedd pleidleisio, trefniadau ar gyfer cynorthwyo personau i bleidleisio, neu'r ddau.
O ran yr ystyr posibl olaf, nodwn fod y Gorchymyn Cynnal Etholiadau Drafft yn cynnig ehangu’r dyletswyddau mewn perthynas ag offer mewn gorsafoedd pleidleisio drwy osod dyletswydd ar y Swyddog Canlyniadau i ddarparu “offer sy'n rhesymol angenrheidiol” i ganiatáu i bersonau bleidleisio'n annibynnol.
Gofynnwn i Lywodraeth Cymru gadarnhau beth y bwriedir i reoliad 6(1)(g) ei gwmpasu. Rydym hefyd yn gofyn a yw gofyniad sy’n gorfodi gweithredwr y platfform i gyhoeddi’r trefniadau hygyrchedd sydd ar waith mewn gorsafoedd pleidleisio yn ymarferol, yn ddichonadwy ac yn ddigon sicr o ystyried y ddyletswydd ehangach arfaethedig yn rheol 37(7)(b) o Atodlen 5 i’r Gorchymyn Cynnal Etholiadau Drafft.
4. Rheol Sefydlog 21.2(v) – bod angen eglurhad pellach ynglŷn â’i ffurf neu ei ystyr am unrhyw reswm penodol.
Mae Rhan 4 o'r Rheoliadau yn ymdrin ag anerchiadau etholiad a datganiadau ymgeiswyr. Nid yw'n glir pam y mae anghysondeb yn y gofynion perthnasol ar gyfer y materion hyn rhwng rheoliad 9 a rheoliad 11(3), yn y drefn honno. Mae rheoliad 9 a rheoliad 11(3) ill dau yn gyson na ddylai’r naill na’r llall gynnwys unrhyw ddeunydd:
(a) sy’n anllad, yn dramgwyddus neu’n anweddus,
(b) y byddai ei gyhoeddi yn debygol o fod yn gyfystyr â chyflawni trosedd.
Fodd bynnag, mewn perthynas â datganiadau ymgeiswyr, mae rheoliad 11(3) yn darparu ymhellach na chaniateir iddynt gynnwys unrhyw ddeunydd:
(c) sy'n gyfystyr â hysbysebu neu a allai arwain at fudd masnachol; neu
(d) a allai gamarwain neu ddrysu pleidleiswyr o ran y system etholiadol a ddefnyddir yn yr etholiad neu o ran effaith rhoi eu pleidlais.
Nid yw’n glir pam nad yw (c) ac (d) hefyd yn gymwys i anerchiadau mewn etholiadau o dan reoliad 9.
5. Rheol Sefydlog 21.2(v) – bod angen eglurhad pellach ynglŷn â’i ffurf neu ei ystyr am unrhyw reswm penodol.
Mae rheoliad 13(3)(a) yn darparu bod rhaid i weithredwr y platfform gyhoeddi hysbysiad o’r broses gyflwyno ar gyfer anerchiadau etholiad neu ddatganiadau ymgeiswyr gan gynnwys, ymhlith pethau eraill, dyddiad y diwrnod olaf y caniateir cyflwyno y dogfennau hynny i gael eu cyhoeddi ar y platfform.
A wnaeth Llywodraeth Cymru ystyried rhagnodi dyddiad cau at y dibenion hyn, neu a fydd yn fater o ddisgresiwn gweithredwr y platfform ar gyfer pob etholiad penodedig?
Rhinweddau: craffu
Nodir y tri phwynt a ganlyn i gyflwyno adroddiad arnynt o dan Reol Sefydlog 21.3 mewn perthynas â'r offeryn hwn.
6. Rheol Sefydlog 21.3(ii) – ei fod o bwysigrwydd gwleidyddol neu gyfreithiol neu ei fod yn codi materion polisi cyhoeddus sy’n debyg o fod o ddiddordeb i’r Senedd;
Mae nifer o groesgyfeiriadau yn y Rheoliadau hyn at ddarpariaethau yn y Gorchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Cynrychiolaeth y Bobl) 2007 ( O.S. 2007/236 ) (y “Gorchymyn Cynnal Etholiadau 2007”).
Bwriad datganedig Llywodraeth Cymru yw disodli Gorchymyn Cynnal Etholiadau 2007 gyda fersiwn derfynol o’r Gorchymyn Cynnal Etholiadau Drafft mewn pryd ar gyfer etholiad cyffredinol arferol nesaf y Senedd yn 2026. Ar ôl iddo gael ei ddisodli, bydd y cyfeiriadau at Orchymyn Cynnal Etholiadau 2007 yn y Rheoliadau hyn yn dod yn ddiangen.
Nodwn y paragraff yn y Memorandwm Esboniadol i’r Rheoliadau hyn sy’n cadarnhau bwriad datganedig Llywodraeth Cymru i “diwygio’r Rheoliadau hyn unwaith y bydd y Gorchymyn newydd wedi’i wneud, i gyfeirio at union ddarpariaethau’r gorchymyn diwygiedig hwnnw”.
7. Rheol Sefydlog 21.3(ii) – ei fod o bwysigrwydd gwleidyddol neu gyfreithiol neu ei fod yn codi materion polisi cyhoeddus sy’n debyg o fod o ddiddordeb i’r Senedd;
Mae rheoliad 8 yn darparu y caiff ymgeiswyr unigol neu bleidiau gwleidyddol cofrestredig ddarparu anerchiad etholiadol i weithredwr y platfform i’w gyhoeddi ar y platfform gwybodaeth am etholiadau’r Senedd. Mae anerchiad etholiadol yn cyfeirio at gopi o'r ddogfen cyfathrebu am ddim drwy’r post fel y'i cymeradwywyd gan y Post Brenhinol.
Ar gyfer y prif etholiadau awdurdodau lleol, mae rheoliad 10 yn darparu y caiff ymgeiswyr neu asiant etholiadol ymgeisydd gyflwyno datganiad ymgeisydd i'w gyhoeddi ar y platfform. Datganiadau byr yw'r rhain am yr ymgeisydd, sy'n manylu ar y rhesymau pam mae’n nhw am gael eu hethol.
Mae rheoliad 16 yn darparu na fydd unrhyw berson yn ysgwyddo unrhyw atebolrwydd sifil neu atebolrwydd troseddol mewn perthynas â chyhoeddi cynnwys anerchiad etholiad neu ddatganiad ymgeisydd ar y platfform, ac eithrio:
(a) yr ymgeiswyr neu'r ymgeisydd y mae'r anerchiad etholiad neu ddatganiad yr ymgeisydd yn ymwneud ag ef, a
(b) yr asiant etholiadol ar gyfer yr ymgeisydd neu'r blaid wleidyddol gofrestredig, sydd wedi cyflwyno rhestr o ymgeiswyr ar gyfer etholaeth, y mae'r anerchiad etholiadol neu’r datganiad ymgeisydd yn ymwneud ag ef.
8. Rheol Sefydlog 21.3(ii) – ei fod o bwysigrwydd gwleidyddol neu gyfreithiol neu ei fod yn codi materion polisi cyhoeddus sy’n debyg o fod o ddiddordeb i’r Senedd;
Mae Rhan 2 o'r Memorandwm Esboniadol yn cynnwys Asesiad Effaith Rheoleiddiol (RIA) ar gyfer y Rheoliadau hyn. Mae paragraff 22 a pharagraff 23 yn ymdrin ag amcangyfrif o'r costau. Mae’n nodi bod y rhain yn debygol o syrthio i ddau gategori, sef: (1) adnoddau o fewn y Bwrdd Rheoli Etholiadol, a (2) costau darparwr gwasanaeth trydydd parti i ddylunio ac adeiladu'r platfform.
O ran yr olaf o’r rhain, mae’r Asesiad Effaith Rheoleiddiol yn nodi amcangyfrif y byddai costau sefydlu cychwynnol o £750,000 - £1 miliwn yn cael eu hysgwyddo yn 2025-26, ac y byddai gwaith cynnal a chadw blynyddol amcangyfrifedig o £80,000-110,000 yn dechrau o 2026-27.
Mae’n nodi ymhellach y gallai fod costau ychwanegol wrth i’r platfform ddatblygu, ond bod y costau gwirioneddol yn anhysbys ar hyn o bryd ac ni ellir eu hamcangyfrif oherwydd natur arbenigol y gwaith hwn a sensitifrwydd masnachol.
Ymateb Llywodraeth Cymru
Mae angen ymateb gan Lywodraeth Cymru ar gyfer pwyntiau technegol 1 i 5 yn unig.
Trafodaeth y Pwyllgor
Trafododd y Pwyllgor yr offeryn yn ei gyfarfod ar 17 Chwefror 2025 ac mae'n cyflwyno adroddiad i'r Senedd yn unol â'r pwyntiau adrodd uchod.